Mae ein aelod-sefydliadau’n cydweithio’n agos i ddarparu cyngor a chefnogaeth i bobl yr effeithir arnynt gan ganser a’u hanwyliaid. Os ydych chi’n poeni am effaith #coronavirus mae mwy o wybodaeth yma:  https://walescanceralliance.org/2020/03/24/cancer-and-coronavirus-qa/

Mae Cynghrair Canser Cymru yn hyrwyddo’r dulliau atal canser gorau a’r driniaeth, yr ymchwil a’r gofal gorau ym maes canser i bobl yng Nghymru. Bob blwyddyn rydym yn buddsoddi mwy nag £20m yng Nghymru ac yn cyfrannu at ddatblygu polisi canser.

Credwn y dylai pobl y mae canser yn effeithio arnynt a’u gofalwyr fod wrth galon y gwaith o gyd-greu gwasanaethau a pholisi canser newydd. Mae gan y trydydd sector rôl bwysig i’w chwarae o ran datblygu, ail-lunio a chyflawni gwelliannau ym maes gofal canser. Gwnawn hyn drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y GIG, llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill.

Am fanylioch pellach cysylltwch gyda: [email protected]

Cynghrair gweithredol (2020/22)

Lowri Griffiths (Gadeirydd)

Glenn Page (V.Gadeirydd)

Katie Till (V.Gadeirydd)

Emily Waller (Trysorydd)

Greg Pycroft (Ysgrifennydd)