Datganiad ar ddarpariaeth sgrinio

Cyhoeddwyd ar 20 Mawrth 2020 a’i ddiweddaru ar 27 Mawrth 2020

Datganiad yn ymateb i newidiadau yn y ddarpariaeth sgrinio yng Nghymru yn dilyn yr achosion o Covid-19

Yn dilyn y cyhoeddiad i atal rhai apwyntiadau a gweithdrefnau nad ydynt yn rhai brys, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar argymhellion Iechyd Cyhoeddus Cymru i oedi rhai o’r rhaglenni sgrinio sy’n seiliedig ar y boblogaeth dros dro. Bydd hyn yn cynnwys y rhaglenni sgrinio am ganser, sef: sgrinio canser y coluddyn, y fron a sgrinio serfigol. Bydd y sefyllfa yma yn cael ei adolygu ymhen 8 wythnos.

Os ydych wedi cael gwahoddiad yn ddiweddar i gymryd rhan mewn sgrinio coluddion, mae Sgrinio Coluddion Cymru am i chi gadw’r pecyn ar gyfer nawr ac aros nes bod gwasanaethau’n dechrau yn ol cyn ei gwblhau a’i anfon yn ôl. Amser yna, byddwch yn derbyn cit newydd, neu bydd rhywun yn cysylltu â chi i ail-wneud eich prawf.

Nid oedd y penderfyniad i atal y gwasanaethau sgrinio yn un hawdd o gwbl, ond bydd yn golygu y gall staff sgrinio’r GIG gefnogi gwasanaethau rheng flaen ar yr adeg anodd hon. Hefyd, mae hyn yn golygu y gall y cyhoedd dilyn y galwad i beidio teithio heb fod yn hanfodol.

Mae’n ddealladwy y byddwch efallai’n teimlo’n fwy pryderus ar hyn o bryd. Os hoffech chi neu eich anwyliaid siarad â rhywun am gymorth emosiynol neu gyngor cyffredinol , mae’r sefydliadau canlynol yn darparu llinellau  cymorth emosiynol ac ymarferol. Gallant eich helpu.