Mae Cynghrair Canser Cymru yn glymblaid o elusennau sy’n gweithio i atal canser, gwella gofal, ariannu ymchwil a dylanwadu ar bolisi yng Nghymru.

Mae Cynghrair Canser Cymru yn hyrwyddo’r dulliau atal canser gorau a’r driniaeth, ymchwil a gofal canser gorau i bobl Cymru. Bob blwyddyn rydym yn buddsoddi miliynau o bunnoedd yng Nghymru ac yn cyfrannu at ddatblygu polisi canser.

Credwn y dylai pobl y mae canser yn effeithio arnynt a’u gofalwyr fod wrth galon y gwaith o gyd-greu gwasanaethau a pholisi canser newydd. Mae gan y trydydd sector rôl bwysig i’w chwarae o ran datblygu, ail-lunio a chyflawni gwelliannau ym maes gofal canser. Gwnawn hyn drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y GIG, llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill.

Am fanylioch pellach cysylltwch gyda: [email protected]

Cynghrair gweithredol (2020/22)

Lowri Griffiths (Gadeirydd)

Simon Scheeres (V.Gadeirydd)

Hannah Buckingham (V.Gadeirydd)

Matthew Jones (Trysorydd)

Greg Pycroft (Ysgrifennydd)