Teenage Cancer Trust

Gwasanaethau grŵp wyneb yn wyneb

Mae’r Teenage Cancer Trust yn cynnal dau benwythnos preswyl y flwyddyn o’r enw ‘Find Your Sense of Tumour’ – un ar gyfer pobl ifanc 13 – 17 mlwydd oed a’r llall ar gyfer pobl ifanc 18 – 25 mlwydd oed. Mae’r penwythnos preswyl hwn yn cynnig nifer o wahanol weithdai, ynghyd â rhoi cyfle i gwrdd â phobl eraill o oedran tebyg sydd â chanser, neu sydd wedi cael canser. Nid oes rhaid i chi dderbyn triniaeth ar uned Teenage Cancer Trust i ddod, gallwch wneud cais ar ein gwefan.

Gwasanaethau un i un

Mae gennym unedau Teenage Cancer Trust, gydag un ohonynt mewn ysbyty yng Nghaerdydd. Ar yr uned hon, mae ein Cydlynydd Cefnogaeth Ieuenctid yn trefnu nifer o weithgareddau ar gyfer pobl ifanc 13 – 24 oed sydd â chanser Dyma eich cyfle i siarad am eich profiad neu i gwrdd ag eraill sydd mewn sefyllfa debyg i chi.

Gwybodaeth a chefnogaeth ar-lein

www.teenagecancertrust.org

Dolen i'r wefan

www.teenagecancertrust.org