Ynysu gartref a’r coronafeirws

Cyhoeddwyd ar 27 Mawrth 2020

Ynysu gartref a’r coronafeirws

Os oes gennych chi neu rywun yr ydych yn byw gyda nhw symptomau o’r coronafeirws, bydd angen i chi aros gartref am hyd at 14 diwrnod.

Mae’r llywodraeth hefyd wedi gofyn i bobl hunanynysu am hyd at 12 wythnos os ydynt wedi cael eu nodi yn rhai sydd â mwy o risg. Os ydych yn y categori hwn, bydd y GIG yn cysylltu’n uniongyrchol â chi gyda chyngor ar y mesurau llymach y dylech eu cymryd er mwyn eich cadw eich hun ac eraill yn ddiogel. Byddant hefyd yn dweud wrthych am y cymorth sydd ar gael ar gyfer ynysu gartref. Os ydych yn poeni eich bod yn y grŵp hwn, a neb yn cysylltu â chi, dylech siarad â’ch tîm gofal iechyd.

Mae’n bwysig cael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran y cyngor a ddarperir gan lywodraeth Cymru a’r GIG. Dyma ddolenni i’r wybodaeth ddiweddaraf am aros gartref:

Rydym yn deall nad yw ynysu gartref yn hawdd. Mae gan y dudalen hon gyngor y gobeithiwn a fydd o gymorth.

Beth yw ynysu gartref?

Mae ynysu gartref yn golygu aros gartref i atal lledaeniad y coronafeirws neu i leihau eich risg o’i gael.

Yn ôl y cyngor gan y GIG, mae hyn yn golygu na ddylech wneud y canlynol:

  • mynd i’r gwaith, yr ysgol na mannau cyhoeddus
  • defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus na thacsis
  • cael ymwelwyr, er enghraifft ffrindiau a theulu, yn eich cartref
  • mynd i brynu bwyd na chasglu meddyginiaeth.

Rydych yn gallu defnyddio eich gardd, os oes gennych un. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dilyn y cyngor diweddaraf gan LLYW.CYMRU.

Paratoi ar gyfer ynysu gartref

Efallai eich bod yn teimlo’n bryderus am ynysu gartref. Bydd paratoi, gobeithio, yn helpu i leddfu rhai o’ch pryderon. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol:

  • Meddwl am yr hyn y bydd arnoch ei angen er mwyn gallu aros gartref am y 7 i 14 diwrnod ar eu hyd.
  • Meddwl a chynllunio sut y gallwch gael bwyd a chyflenwadau eraill, e.e. meddyginiaethau, y bydd arnoch eu hangen yn ystod y cyfnod hwn.
  • Wrth ynysu gartref, gofyn i ffrindiau, eich teulu neu eich cyflogwr ddod ag unrhyw beth y bydd arnoch ei angen i chi.
  • Cynllunio ymlaen llaw beth y byddech yn ei wneud pe byddai rhywun yn eich cartref yn teimlo’n llawer gwaeth, er enghraifft yn cael anawsterau anadlu.
  • Os ydych yn archebu cyflenwadau ar-lein, gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu gadael y tu allan i’ch cartref i chi eu casglu.

Mae’n gwbl ddealladwy y byddwch efallai’n teimlo’n fwy pryderus. Rydym wedi paratoi rhestr o sefydliadau sy’n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol.