Cymorth a gwybodaeth i bobl sy’n byw â chanser

Diweddarwyd 26 Mawrth 2020

Cymorth a gwybodaeth i bobl sy’n byw â chanser

Mae Cynghrair Canser Cymru yn grŵp o 20 o elusennau canser sy’n gweithio gyda’i gilydd i wneud pethau’n well i bobl y mae canser yn effeithio arnynt, a’u hanwyliaid. Yn ddiau, bydd y pandemig Covid-19 cyfredol yn achosi i lawer deimlo’n ofidus a phryderus, ac felly, er mwyn eich cefnogi trwy’r cyfnod hwn, rydym wedi llunio rhestr o sefydliadau y gall eu llinellau cymorth a’u gwybodaeth fod o gymorth mawr.

Efallai yr hoffech gael sgwrs a chlust i wrando, darganfod rhagor am fudd-daliadau a chymorth ariannol, neu efallai bod gennych gwestiwn am eich canser nad yw’n gysylltiedig â Covid-19. Y peth pwysig i chi ei wybod yw ein bod ni yma, a’n bod yn cydweithio i’ch cefnogi.

Cymorth Canser Macmillan

0808 808 00 00

9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Marie Curie

0800 090 2309

8am-6pm yn ystod yr wythnos, 11am-5pm ar ddydd Sadwrn

Bowel Cancer UK

Gofynnwch i’r Cymorth Nyrs Ar-lein

Prostate Cancer UK

0800 074 8383

9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Myeloma UK

0800 980 3332

9am-5pm yn ystod yr wythnos

[email protected]

Hwb gwybodaeth

The Brain Tumour Charity

0808 800 0004

9am-5pm yn ystod yr wythnos

[email protected]

Jo’s Cervical Cancer Trust

0808 802 8000 Mae’r oriau agor yn amrywio

Bloodwise

0808 208 0888

10 am-4pm yn ystod yr wythnos, 10am-1pm ar ddydd Mercher

Pancreatic Cancer UK

0808 801 0707 10am-4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu trwy e-bost.

Maggie’s Centre

Cymorth ar-lein, dros y ffôn a thrwy sgwrs fideo.

0300 123 1801 (llinell Gymorth y Deyrnas Unedig)

9am-5pm yn ystod yr wythnos

Cymorth lleol –

Maggie’s yng Nghaerdydd (yng Nghanolfan Ganser Felindre)                                  029 2240 8024/[email protected]

Maggie’s yn Abertawe (yn Ysbyty Singleton) 01792 200 000/[email protected]

Gofal Canser Tenovus

0808 808 1010

9am-5pm yn ystod yr wythnos, penwythnosau 10am-1pm

Breast Cancer Now

0808 800 6000

10am-3pm yn ystod yr wythnos

Cancer Research UK

0808 800 4040

9am-5pm yn ystod yr wythnos

Target Ovarian Cancer

020 7923 5475

9am-5:30pm yn ystod yr wythnos

British Liver Trust

0800 652 7330

10am-2.45pm yn ystod yr wythnos (Ddim ar wyliau banc)

[email protected]

Grŵp cymorth ar-lein

Clic Sargeant

Sgwrs Fyw Ar-lein10am-4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a Grwpiau Facebook

Ray of Light Wales

Cymorth ar-lein, negeseuon e-bost, ffôn a Skype trwy gydol y mis. Tudalen Facebook yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynnwys ar y dudalen hon, cysylltwch â: Jon Antoniazzi, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru ar gyfer Cymorth Canser Macmillan –[email protected]

Ynysu gartref a’r coronafeirws

Cyhoeddwyd ar 27 Mawrth 2020

Ynysu gartref a’r coronafeirws

Os oes gennych chi neu rywun yr ydych yn byw gyda nhw symptomau o’r coronafeirws, bydd angen i chi aros gartref am hyd at 14 diwrnod.

Mae’r llywodraeth hefyd wedi gofyn i bobl hunanynysu am hyd at 12 wythnos os ydynt wedi cael eu nodi yn rhai sydd â mwy o risg. Os ydych yn y categori hwn, bydd y GIG yn cysylltu’n uniongyrchol â chi gyda chyngor ar y mesurau llymach y dylech eu cymryd er mwyn eich cadw eich hun ac eraill yn ddiogel. Byddant hefyd yn dweud wrthych am y cymorth sydd ar gael ar gyfer ynysu gartref. Os ydych yn poeni eich bod yn y grŵp hwn, a neb yn cysylltu â chi, dylech siarad â’ch tîm gofal iechyd.

Mae’n bwysig cael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran y cyngor a ddarperir gan lywodraeth Cymru a’r GIG. Dyma ddolenni i’r wybodaeth ddiweddaraf am aros gartref:

Rydym yn deall nad yw ynysu gartref yn hawdd. Mae gan y dudalen hon gyngor y gobeithiwn a fydd o gymorth.

Beth yw ynysu gartref?

Mae ynysu gartref yn golygu aros gartref i atal lledaeniad y coronafeirws neu i leihau eich risg o’i gael.

Yn ôl y cyngor gan y GIG, mae hyn yn golygu na ddylech wneud y canlynol:

  • mynd i’r gwaith, yr ysgol na mannau cyhoeddus
  • defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus na thacsis
  • cael ymwelwyr, er enghraifft ffrindiau a theulu, yn eich cartref
  • mynd i brynu bwyd na chasglu meddyginiaeth.

Rydych yn gallu defnyddio eich gardd, os oes gennych un. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dilyn y cyngor diweddaraf gan LLYW.CYMRU.

Paratoi ar gyfer ynysu gartref

Efallai eich bod yn teimlo’n bryderus am ynysu gartref. Bydd paratoi, gobeithio, yn helpu i leddfu rhai o’ch pryderon. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol:

  • Meddwl am yr hyn y bydd arnoch ei angen er mwyn gallu aros gartref am y 7 i 14 diwrnod ar eu hyd.
  • Meddwl a chynllunio sut y gallwch gael bwyd a chyflenwadau eraill, e.e. meddyginiaethau, y bydd arnoch eu hangen yn ystod y cyfnod hwn.
  • Wrth ynysu gartref, gofyn i ffrindiau, eich teulu neu eich cyflogwr ddod ag unrhyw beth y bydd arnoch ei angen i chi.
  • Cynllunio ymlaen llaw beth y byddech yn ei wneud pe byddai rhywun yn eich cartref yn teimlo’n llawer gwaeth, er enghraifft yn cael anawsterau anadlu.
  • Os ydych yn archebu cyflenwadau ar-lein, gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu gadael y tu allan i’ch cartref i chi eu casglu.

Mae’n gwbl ddealladwy y byddwch efallai’n teimlo’n fwy pryderus. Rydym wedi paratoi rhestr o sefydliadau sy’n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol.

Datganiad ar ddarpariaeth sgrinio

Cyhoeddwyd ar 20 Mawrth 2020 a’i ddiweddaru ar 27 Mawrth 2020

Datganiad yn ymateb i newidiadau yn y ddarpariaeth sgrinio yng Nghymru yn dilyn yr achosion o Covid-19

Yn dilyn y cyhoeddiad i atal rhai apwyntiadau a gweithdrefnau nad ydynt yn rhai brys, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar argymhellion Iechyd Cyhoeddus Cymru i oedi rhai o’r rhaglenni sgrinio sy’n seiliedig ar y boblogaeth dros dro. Bydd hyn yn cynnwys y rhaglenni sgrinio am ganser, sef: sgrinio canser y coluddyn, y fron a sgrinio serfigol. Bydd y sefyllfa yma yn cael ei adolygu ymhen 8 wythnos.

Os ydych wedi cael gwahoddiad yn ddiweddar i gymryd rhan mewn sgrinio coluddion, mae Sgrinio Coluddion Cymru am i chi gadw’r pecyn ar gyfer nawr ac aros nes bod gwasanaethau’n dechrau yn ol cyn ei gwblhau a’i anfon yn ôl. Amser yna, byddwch yn derbyn cit newydd, neu bydd rhywun yn cysylltu â chi i ail-wneud eich prawf.

Nid oedd y penderfyniad i atal y gwasanaethau sgrinio yn un hawdd o gwbl, ond bydd yn golygu y gall staff sgrinio’r GIG gefnogi gwasanaethau rheng flaen ar yr adeg anodd hon. Hefyd, mae hyn yn golygu y gall y cyhoedd dilyn y galwad i beidio teithio heb fod yn hanfodol.

Mae’n ddealladwy y byddwch efallai’n teimlo’n fwy pryderus ar hyn o bryd. Os hoffech chi neu eich anwyliaid siarad â rhywun am gymorth emosiynol neu gyngor cyffredinol , mae’r sefydliadau canlynol yn darparu llinellau  cymorth emosiynol ac ymarferol. Gallant eich helpu.